Y Pwyllgor Deisebau

Dyddiad: 20 Tachwedd 2012

Lleoliad: Y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Teitl: Cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol

 

Diben

 

1.  Mae’r papur hwn yn darparu tystiolaeth ar gyfer y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn bresennol yn y Pwyllgor Deisebau i drafod y Safonau Canser Cenedlaethol. Mae’r  Pwyllgor wedi ystyried y mater hwn ar sawl achlysur rhwng 2008 a 2012.

 

2.  Mae’r papur tystiolaeth yn:

 

·         esbonio’r symudiad oddi wrth safonau canser sy’n cael eu monitro’n ganolog tuag at drefn o fonitro gan Fyrddau Iechyd Lleol;

·         edrych ar y ffordd y caiff Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser ei roi ar waith;

·         ystyried gwaith monitro Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

 

Crynodeb

 

3.    Er bod safonau’n werthfawr i’r Byrddau Iechyd Lleol i helpu i sicrhau cysondeb yn y gwasanaethau, nid yw’r broses o fonitro’r safonau yn ffordd o asesu ansawdd gwasanaeth, nac o ddeall profiad claf o’r gwasanaethau hynny. Mae Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn canolbwyntio ar hybu ansawdd da a chanlyniadau i’r cleifion, yn hytrach nag ar agweddau technegol darparu’r gwasanaethau.

 

4.    Pennwyd y cyfeiriad polisi ar gyfer gwella gwasanaethau canser yng Nghymru gan y Cynllun i Fynd i’r Afael â Chanser yng Nghymrua gyhoeddwyd yn 2006 a’r Fframwaith Strategol a gyhoeddwyd yn 2008. Roedd y ddogfen hon yn canolbwyntio ar gyflawni’r Safonau Canser gan fod hynny’n briodol ar y pryd.Y Safonau Canser yw’r sylfeini ar gyfer gwasanaethau canser. Maent yn canolbwyntio ar yr elfennau o’r broses ddiagnosio a thrin y dylai claf eu disgwyl.

 

5.  Nid yw’n ofynnol bellach i’r Byrddau Iechyd Lleol adrodd yn rheolaidd wrth

     Lywodraeth Cymru ar fater cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol.

     Mater i’r Byrddau Iechyd Lleol yw asesu’r Safonau a’u monitro. Serch

     hynny, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn eu monitro’u hunain

     yn erbyn y Safonau ac yn adrodd yn ôl i'w Byrddau."

 

 

 

 

 

Cydymffurfio

 

6.  Y Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am asesu a monitro’r Safonau Canser

     Cenedlaethol. Rhaid i’r gwasanaethau hefyd gydymffurfio â safonau

     canser penodol a gyhoeddwyd yn fwy diweddar (rhai ar gyfer sarcomata;

     plant, rhai yn eu harddegau a phobl ifanc; adsefydlu oedolion sydd â

    chanser; gofal lliniarol).

 

7.   Er mwyn cefnogi’r Byrddau Iechyd yn y gwaith o fonitro safonau, mae’r Cynllun Sicrhau Ansawdd yn rhoi’r dasg i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o gyflwyno proses o adolygu safonau gan gymheiriaid, gan ddechrau gyda gofal canser a gofal diwedd oes yn 2012. Mae clinigwyr yn gryf o blaid y drefn hon.

 

8.  Mae archwiliadau clinigol ac adolygiadau o ganlyniadau clinigol yn hanfodol er mwyn gallu parhau i wella gwasanaethau. Mae'n rhaid i bob un o sefydliadau'r GIG sy'n darparu gofal canser gymryd rhan yn yr holl adolygiadau cenedlaethol o ganlyniadau clinigol a nodir yn Rhaglen Archwilio Genedlaethol Flynyddol Llywodraeth Cymru, ac yna weithredu ar y canfyddiadau.

 

Y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser

 

9.   Nod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yw cynllunio, sicrhau a darparu gofal canser diogel, cynaliadwy, o ansawdd da ar gyfer poblogaethau lleol. Mae’n cynnig fframwaith y gall Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG weithredu arno. Mae’n nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r GIG yng Nghymru ei wneud i fynd i’r afael â chanser mewn pobl o bob oed, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru a beth bynnag yw eu hamgylchiadau.Bwriad y Cynllun yw galluogi’r GIG i gyflawni ei gyfrifoldeb i ddiwallu anghenion pobl sydd mewn perygl o gael canser neu y mae canser yn effeithio arnynt eisoes. Mae’n nodi:

 

 

10. Mae Llywodraeth Cymru a Chymorth Canser Macmillan yn cydweithio i ganfod yr agweddau anghlinigol ar ofal canser y mae ar gleifion a’u teuluoedd eu hangen. Bydd hyn yn cyfrannu at waith cynllunio a darparu gwasanaethau. Maent hefyd am gynnal arolwg cenedlaethol o brofiadau cleifion canser. Bydd modd i sefydliadau ddefnyddio’r canlyniadau i weld ym mha feysydd y mae angen gwelliannau. Bydd hefyd yn help i ddeall yn well a yw rhai mathau o ganser, a phobl o rai grwpiau ethnig, cymunedau neu grwpiau oedran, neu ddynion neu ferched yn cael gofal salach, gan roi cyfle i gywiro’r sefyllfa.

 

11. Mae’rCynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn pennu camau i’w cymryd hyd at 2016 ar gyfer GIG Cymru ar y cyd â’i bartneriaid.Yn ôl y Cynllun Cyflawni, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau:  

 

 

12. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dangosyddion isod i fesur   llwyddiant:

 

 

13. Mae’r Cynllun hefyd yn nodi set fach o Fesurau Perfformiad ar gyfer y GIG ac yn pennu lefel perfformio ar gyfer pob un erbyn 2016. Datblygwyd cyfres o ddangosyddion perfformiad a mesurau canlyniad ar gyfer canser. Darparwyd y data ar gyfer pob un o’r dangosyddion a’r mesurau perfformio hyn i bob Bwrdd Iechyd Lleol ym mis Medi 2012. Yna defnyddiwyd y data hwn ganddynt i baratoi eu hadroddiadau blynyddol ac er mwyn sicrhau tryloywder, maent yn y broses o sicrhau bod y rhain ar gael i’r cyhoedd ar eu gwefannau.  Mae adroddiad blynyddol Cymru gyfan ar ganser yn cael ei baratoi, ar sail adroddiad blynyddol pob Bwrdd Iechyd Lleol unigol. Caiff hwn ei gyhoeddi cyn diwedd 2012.

 

 

Monitro

 

Grŵp Gweithredu Canser Cymru Gyfan 

 

14. Rôl y Grŵp Gweithredu yw rhoi arweiniad a chefnogaeth ar gyfer y gwaith o ddarparu gofal canser effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y bobl, yng Nghymru. Ei nod yw bod yn fforwm i hybu, cefnogi a goruchwylio ymdrechion y Byrddau Iechyd Lleol i wireddu cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu canser yng Nghymru, trwy fwrw ymlaen â’r camau a nodir yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser ar gyfer 2011-12 i 2015-16 a sicrhau cynnydd mesuradwy tuag at sicrhau cyfraddau mynychder, marwolaethau a goroesi ym maes canser yng Nghymru sydd cystal â’r gorau yn Ewrop erbyn 2015.

 

15. Bydd y Grŵp yn:

 

16. Mae’r grŵp wedi cwrdd deirgwaith yn barod eleni. Mae wedi sefydlu ffrydiau gwaith clir, gydag is-grŵp Effeithiolrwydd Clinigol yn canolbwyntio ar well gofal dilynol a diagnosis cynharach. Sefydlwyd hefyd Grŵp Gofal sy’n Canolbwyntio ar Bobl ac mae hwn yn arwain y gwaith ar Weithwyr Allweddol a Chynlluniau Gofal ac yn datblygu arolwg cenedlaethol o gleifion canser ar y cyd â Macmillan.

 

Mesur llwyddiant

 

17. Mae’r Cynllun Sicrhau Ansawdd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro perfformiad a chynnydd wrth wella iechyd a gofal iechyd yng Nghymru.

 

18. Mae'r Cynllun Sicrhau Ansawdd yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG fonitro set o fetrigau ansawdd a chyhoeddi adroddiadau rheolaidd arnynt i'r cyhoedd, ac felly i Lywodraeth Cymru, ac i’w Byrddau eu hunain. Mae mesurau'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn ffurfio rhan o’r cynllun sicrhau ansawdd.

 

19. Yn y Rhaglen Lywodraethu a Haen 1, pennwyd dau darged ar gyfer amseroedd aros am driniaethau canser.

 

Atebolrwydd

 

20. Mae Llywodraeth Cymru’n dal y GIG i gyfrif o ran pa mor dda y mae’n sicrhau’r canlyniadau yr ydym ni am eu gweld. Mae’r llinellau atebolrwydd yn mynd trwy Brif Weithredwyr yr Ymddiriedolaethau at Brif Weithredwr GIG Cymru a thrwy gadeiryddion y Byrddau Iechyd Leol a’r Ymddiriedolaethau  ataf i fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

21. Goruchwylir y cynnydd a wneir trwy fonitro lefelau perfformiad penodedig ar gyfer pob un o fesurau perfformiad y GIG erbyn 2016.